Overview

Rheolwr Marchnata (Cymru) (Cardiff, ENG, GB, CF10 1AP)

Newid eich gyrfa, newid bywydau

 

Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube).

Y Rôl

 

Rydym yn chwilio am weithiwr marchnata proffesiynol talentog a brwdfrydig i ymuno â'r Brifysgol Agored yng Nghymru ac i helpu i gynnal ymgyrchoedd diddorol sy'n cefnogi'r broses o recriwtio myfyrwyr a chodi ymwybyddiaeth o'r brand ledled Cymru. Gan weithio fel rhan o'n tîm Digidol, Marchnata a Chyfathrebu, byddwch yn helpu i ddatblygu a chynnal gweithgarwch marchnata aml-sianel sy'n helpu i gysylltu darpar fyfyrwyr â chyfleoedd sy'n newid bywyd a gynigir gan Y Brifysgol Agored.

Mae hon yn rôl amrywiol a gwerth chweil sy'n cynnig y cyfle i weithio ar draws amrywiaeth eang o ymgyrchoedd a sianeli, gan weithio â chydweithwyr o bob rhan o'r Brifysgol yn ogystal ag asiantaethau a phartneriaid allanol. Byddwch yn cyfrannu at y gwaith o gynllunio a chynnal ymgyrchoedd, helpu i fonitro a gwerthuso perfformiad, sicrhau cydymffurfiaeth y brand, a defnyddio data a gwybodaeth i gefnogi proses gwneud penderfyniadau'n effeithiol.

Byddai'r rôl yn addas i rywun sy'n mwynhau gweithio mewn amgylchedd cydweithredol, yn angerddol dros farchnata, ac sydd â diddordeb penodol mewn cynnal ymgyrchoedd o ansawdd uchel sy'n cyflawni canlyniadau mesuradwy. Fel rôl tymor penodol o 12 mis, mae'n gyfle rhagorol i ddatblygu eich profiad mewn sefydliad a gaiff ei barchu sy'n sicrhau bod addysg uwch yn hygyrch i bobl o bob cwr o Gymru. Gellir cyflawni'r rôl yn hybrid, gan weithio dau ddiwrnod yn swyddfa'r Brifysgol Agored yng Nghymru yng Nghaerdydd a thri diwrnod o bell.

 

Cyfrifoldebau Allweddol

 

  • Helpu Cyfarwyddwr Cynorthwyol MarComms Digital i ddatblygu a darparu cynlluniau marchnata ac ymgyrchoedd recriwtio myfyrwyr sy'n cyfrannu at broses Y Brifysgol Agored i gaffael myfyrwyr, ymwybyddiaeth o'r brand ac amcanion y busnes.
  • Helpu i ddarparu a chydlynu gweithgarwch marchnata aml-sianel ar sianeli digidol ac all-lein, gan weithio gyda thimau mewnol, asiantaethau allanol a phartneriaid i sicrhau y caiff ymgyrchoedd eu cynnal yn effeithiol ac yn unol â'r briffiau, yr amserlenni a'r cyllidebau y cytunwyd arnynt.
  • Monitro perfformiad ymgyrchoedd, helpu i roi prosesau olrhain a gwerthuso ar waith, a llunio adroddiadau'n rheolaidd er mwyn helpu i wella gweithgarwch a'r enillion ar fuddsoddiad. Cynnal gwerthusiad ar ôl ymgyrchoedd a rhannu canfyddiadau ac argymhellion er mwyn helpu i gynllunio a datblygu gweithgarwch marchnata yn y dyfodol.
  • Defnyddio gwybodaeth am y farchnad, gwybodaeth gan y gynulleidfa a data perfformiad er mwyn helpu i wneud penderfyniadau am gyfleoedd twf, gan helpu i sicrhau bod y gweithgarwch marchnata yn bodloni'r amcanion y cytunwyd arnynt.
  • Meithrin cydberthnasau gwaith cadarnhaol ag unigolion o bob rhan o'r Brifysgol yn ogystal â chyflenwyr allanol, gan roi cyngor a chymorth marchnata i gydweithwyr wrth sicrhau bod holl ddeunyddiau ymgyrchoedd a marchnata yn gyson â chanllawiau brand Y Brifysgol Agored. Gweithio gyda chydweithwyr ac asiantaethau partner er mwyn helpu i sicrhau y caiff gwasanaethau eu darparu i safon uchel a bod gweithgarwch marchnata yn cael ei gwblhau yn unol â'r briffiau, amcanion, amserlenni a'r cyllidebau y cytunwyd arnynt.
  • Gweithredu fel rheolwr llinell o ddydd i ddydd i'r Cynorthwyydd Marchnata, gan oruchwylio'r broses o ddyrannu a blaenoriaethu gwaith ar ei gyfer a sicrhau bod ei waith yn bodloni'r amcanion gofynnol yn effeithiol. Bydd angen i chi hefyd gefnogi ei ddatblygiad a'i lesiant, a chyfrannu at y gwaith o sicrhau bod y tîm ehangach yn gweithredu'n effeithiol.
  • Cynrychioli'r Brifysgol Agored a'r tîm Digidol, Marchnata a Chyfathrebu mewn cyfarfodydd mewnol, digwyddiadau allanol a sesiynau ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ôl yr angen.

 

Amdanoch Chi

 

Hanfodol: 

  • Gradd a chymwysterau proffesiynol perthnasol neu brofiad cyfatebol mewn disgyblaeth marchnata, hysbysebu neu ddisgyblaeth yn ymwneud â busnes.
  • Profiad o weithio mewn rôl farchnata gyfatebol a chynnal ymgyrchoedd marchnata aml-sianel, gan gynnwys gweithgarwch marchnata all-lein a digidol, yn llwyddiannus.
  • Dealltwriaeth o gaffael a marchnata brand ar draws amrywiaeth o sianeli, gan gynnwys yn ddigidol, ar gyfryngau cymdeithasol, PPC, SEO, y wasg, y radio, hysbysebu yn yr awyr agored, digwyddiadau a gweithgarwch marchnata arall.
  • Profiad o fod yn rheolwr llinell o ddydd i ddydd, gan gynnwys dyrannu / blaenoriaethu llwyth gwaith a chefnogi llesiant a datblygiad.
  • Profiad o gydweithio â rhanddeiliaid mewnol, asiantaethau allanol a phartneriaid i ddarparu gweithgarwch sy'n bodloni amcanion, amserlenni a chyllidebau y cytunwyd arnynt wrth gydbwyso blaenoriaethau sy'n gwrthdaro ac anghenion rhanddeiliaid.
  • Sgiliau cyfathrebu, cyflwyno a rheoli cydberthnasau rhagorol, gyda'r gallu i lunio ac addasu negeseuon ar gyfer cynulleidfaoedd gwahanol, gan feithrin cydberthnasau gwaith effeithiol a chyfleu syniadau'n glir ac mewn ffordd ddarbwyllol.
  • Y gallu i ddehongli, crynhoi a defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan ddefnyddio data a gwybodaeth er mwyn helpu i werthuso, nodi cyfleoedd a chyfrannu at argymhellion marchnata ar gyfer y dyfodol.
  • Yn rhifog ac yn ymwybodol o faterion ariannol, gyda dealltwriaeth o brosesau rheoli cyllideb a mesurau perfformiad marchnata.
  • Sgiliau sefydliadol cryf, gyda'r gallu i reoli sawl prosiect a blaenoriaethau sy'n gwrthdaro, gan weithio i derfynau amser tynn a chynnal lefel uchel o gywirdeb a sylw at fanylder.
  • Yn greadigol, yn rhagweithiol ac yn canolbwyntio ar ganlyniadau, gyda'r gallu i weithio heb oruchwyliaeth, defnyddio menter a barn, datrys problemau'n ddidrafferth ac yn broffesiynol a chyfrannu syniadau sy'n cefnogi amcanion marchnata a gwelliant parhaus.
  • Yn gallu gweithio'n dda mewn tîm gyda meddylfryd cadarnhaol ac adeiladol.

 

Dymunol:

  • Cymhwyster Marchnata perthnasol.
  • Y gallu i ddeall Cymraeg ysgrifenedig / llafar.

 

Cymorth gyda'ch cais

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio careers@open.ac.uk gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb.

Beth yw'r buddion i chi?

Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.  Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd).

Trefniadau Gweithio Hyblyg

Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi.

 

Lleoliad gweithio

Rhagwelir y gellir mabwysiadu trefniant gweithio hybrid ar gyfer y rôl hon, lle gallwch weithio gartref ac yn y swyddfa. Fodd bynnag, gan fod y rôl hon wedi'i halinio i'n swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd angen i ddeiliad y rôl weithio o'n campws yng Nghaerdydd o leiaf dau ddiwrnod yr wythnos, gyda hyblygrwydd i fynd i'r campws yn rheolaidd yn dibynnu ar anghenion busnes.

 

Rhagor o wybodaeth

Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg, ac ni chaiff cais a gyflwynir yn Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.  

Nodwch os hoffech ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfweliad neu unrhyw ffurf arall o asesu. Byddwn yn darparu cyfieithydd ar y pryd os bydd angen.

 

Camau nesaf yn y broses Recriwtio

Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer, rydym yn rhagweld y bydd y cyfweliadau yn cael eu cynnal ar 29 neu 30 Hydref.

Hysbysiad dyddiad cau cynnar

Er y bydd modd gwneud cais am y rhan fwyaf o swyddi tan y dyddiad cau a hysbysebir, mae’n bosibl y byddwn yn adolygu ceisiadau yn barhaus. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y cyfnod ymgeisio am swyddi gwag yn dod i ben yn gynt os oes digon o geisiadau addas wedi dod i law, ac os yw effeithiau hynny ar gydraddoldeb wedi eu hystyried yn briodol. Bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu am o leiaf wythnos cyn i’r cyfnod ymgeisio ddod i ben yn gynnar.

Os ydych chi wedi dechrau cais neu os oeddech chi wrthi’n gwneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym wedi ymrwymo i ddeall amgylchiadau unigol a gallwn gynnig cymorth lle bo angen, gan gynnwys gwneud addasiadau rhesymol i ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r ddogfen/dogfennau canlynol:

  • CV
  • Datganiad Ategol (Ni ddylai eich Datganiad Ategol fod yn fwy na 1000 o eiriau a dylai amlinellu sut mae eich sgiliau a'ch profiad presennol yn bodloni'r meini prawf hanfodol a dymunol a restrir uchod).

Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio.  Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.

 

Before you apply -
Register now and turn on alerts for jobs like this!

  • To apply for this position, receive job notifications and manage your applications, click "Register with Diversity Jobs Group".
  • To apply for this position without registering, click "Apply with Customer".

By registering you agree to our terms and conditions.

Apply with Customer

IMPORTANT: Before applying for this role, please make sure you have the right to work in the country where the role is based. Unless it clearly stipulates within in the job advert above that the hiring company is looking to or able to sponsor applicants it is deemed that the hiring employer will only consider applications from those able to comply with and work in the country where the role is based.