Cardiff University
Individually unique, collectively brilliant: Cardiff University’s mission is to deliver a better world for future generations. At Cardiff University, we work together towards a better future for all. We believe that greatness comes from collaboration, co-creation and diversity of opinion.
Our University is in the heart of the capital city of Wales. We attract students and staff from all over the world and are proud of our welcoming and friendly reputation.
We can offer you great benefits and a rewarding career.
Unigolion unigryw sy’n wych gyda’i gilydd: Cenhadaeth Prifysgol Caerdydd yw creu byd gwell i genedlaethau’r dyfodol. Ym Mhrifysgol Caerdydd, rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i greu dyfodol gwell i bawb. Credwn fod mawredd yn deillio o gydweithio, cyd-greu ac amrywiaeth barn.
Mae ein Prifysgol yng nghanol prifddinas Cymru. Rydyn ni’n denu myfyrwyr a staff o bob cwr o’r byd ac yn falch o’n henw da o fod yn groesawgar a chyfeillgar.
Gallwn gynnig buddion gwych a gyrfa werth chweil i chi.
What we can offer
We know that our success depends largely upon the commitment, energy and enthusiasm of the people working here. That’s why we strive to provide excellent working conditions and policies for our staff, with benefits ranging from generous leave entitlement to training and development opportunities.
Work-life balance
- Generous leave entitlement (either 32 or 37 days’ holiday, plus bank holidays)
- Standard 35-hour working week
- Family-friendly policies
Financial benefits
- Competitive salaries, including annual cost of living increases
- Contributory pensions schemes
- Cycle to Work scheme
- Annual travel loans
Development and wellbeing
- Staff health and wellbeing support and provision
- Free eye tests
- Continuing Professional Development courses and workshops
- Range of training and development opportunities
Facilities and services
- Nursery for staff and students’ children
- Sports facilities and Students’ Union access
- Library services
- Staff networks and unions
Yr hyn y gallwn ni ei gynnig
Gwyddom fod ein llwyddiant yn dibynnu i raddau helaeth ar ymrwymiad, egni a brwdfrydedd y bobl sy’n gweithio yma. Dyna pam rydyn ni’n ymdrechu i ddarparu polisïau ac amodau gwaith ardderchog i’n staff, gyda buddion yn amrywio o wyliau hael i gyfleoedd hyfforddi a datblygu.
Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
- Gwyliau hael (naill ai 32 neu 37 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc)
- Wythnos waith safonol o 35 awr
- Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd
Manteision ariannol
- Cyflogau cystadleuol, gan gynnwys cynnydd blynyddol sy’n ystyried costau byw
- Cynlluniau pensiwn cyfrannol
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Benthyciadau teithio blynyddol
Datblygiad a lles
- Cefnogaeth a darpariaeth iechyd a lles i staff
- Profion llygaid am ddim
- Cyrsiau a gweithdai Datblygiad Proffesiynol Parhaus
- Ystod o gyfleoedd hyfforddi a datblygu
Cyfleusterau a gwasanaethau
- Meithrinfa i blant staff a myfyrwyr
- Mynediad i gyfleusterau chwaraeon ac Undeb y Myfyrwyr
- Gwasanaethau’r Llyfrgelloedd
- Rhwydweithiau staff ac undebau
Our values
We aim to establish an inclusive culture free from discrimination and based upon our university values of dignity, courtesy and respect. We recognise the right of every person to be treated in accordance with these values.
Our three touchpoints are:
- Cynefin (Welsh for habitat) – building a place where people feel they belong.
- Tegwch (Welsh for fairness) – providing equitable opportunities for everyone in Cardiff to achieve their goals.
- Cyfrannu (Welsh for contributing) – being an outward-facing university that works with local communities to make Cardiff and South Wales a fairer place.
Ein gwerthoedd
Ein nod yw creu diwylliant cynhwysol sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ac yn seiliedig ar werthoedd y Brifysgol, sef urddas, cwrteisi a pharch. Rydyn ni’n cydnabod hawl pob person i gael eu trin yn unol â’r gwerthoedd hyn.
Ein tri phwynt cyswllt yw:
- Cynefin – lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn.
- Tegwch: rhoi cyfleoedd teg i bawb ym Mhrifysgol Caerdydd gyflawni eu nodau.
- Cyfrannu: bod yn brifysgol sy’n edrych tuag allan ac sy’n gweithio gyda chymunedau lleol i wneud Caerdydd a de Cymru yn lle tecach.
Equality, Diversity, Inclusion and Wellbeing
We are committed to supporting and promoting equity and diversity. Our inclusive environment welcomes applications from talented people from diverse backgrounds.
Our equity, diversity and inclusion work is guided by our Strategic Equality Plan and our charter mark applications and their associated action plans. These set out our vision for a truly inclusive and anti-racist Cardiff University – one that not only celebrates difference but actively removes barriers to participation and progress.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Lles
Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo tegwch ac amrywiaeth. Mae ein hamgylchedd cynhwysol yn croesawu ceisiadau gan bobl ddawnus o gefndiroedd amrywiol.
Mae ein gwaith ar degwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn dilyn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’n ceisiadau am farciau siarter a’u cynlluniau gweithredu cysylltiedig. Mae’r rhain yn amlygu gweledigaeth wirioneddol gynhwysol a gwrth-hiliol ar gyfer Prifysgol Caerdydd – un sy’n dathlu gwahaniaeth ond ar ben hynny’n mynd ati i ddileu’r rhwystrau rhag cymryd rhan a sicrhau cynnydd.
Cardiff University
Head Office
Cardiff, Wales, UK













